Gwybodaeth

Ganwyd Owen Martell yng Nghaerwysg a chafodd ei fagu ym Mhontneddfechan, de Cymru. Astudiodd lenyddiaeth ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Rhydychen. Enillodd ei nofel gyntaf, Cadw dy ffydd, brawd, wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2001. Enwyd ei ail nofel, Dyn yr Eiliad, ar restr fer yr un gystadleuaeth yn 2004 ac y mae, yn ôl un adolygydd, yn “un o gerrig milltir ffuglen Gymraeg ddiweddar”. Ei lyfr diweddaraf yw Dolenni Hud, casgliad o straeon byrion ar y cyd â’r ffotograffydd Simon Proffitt. Yn 2009, derbyniodd Owen wobr ‘Cymru Greadigol’ gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae e hefyd yn gweithio fel cyfieithydd. Cynhyrchwyd Ceisio’i Bywyd Hi, cyfieithiad o ddrama Martin Crimp, Attempts on her life, gan Sherman Cymru, yn ystod haf/hydref 2009.