Darlleniad

Dydd Llun, 15 Mawrth 2010 

Prifysgol Abertawe
Ystafell B03, Adeilad Callaghan
16h00

http://www.telegraph.co.uk/culture/books/6728945/A-Stamboul-Train-full-of-writers.html

http://www.word-express.org/

Scritture Giovani 09

Fe fydda i’n cymryd rhan ym mhrosiect Scritture Giovani eleni - gallwch ddarllen fy stori, The Dip,  a gweld gwybodaeth am y cynllun fan hyn.

Dyddiadau:

11 Medi, Festivaletteratura, 21h30, Piazza San Leonardo, Mantova, Yr Eidal
Gyda Gabriele Dadati, Anna Fine & Chicca Gagliardo
18 Medi, Literaturfestival, 19h00, Collegium Hungaricum Berlin, Dorotheenstraße12, 10117 Berlin (Mitte), Yr Almaen 
Gyda Paul Brodowsky, Gabriele Dadati & Céline Robinet

Ceisio’i Bywyd Hi

Gan Martin Crimp
Cyfieithiad Owen Martell o Attempts on Her Life

“Ann. Wyt ti yna? Gwranda. Beth am hyn, beth os, beth os taw, beth am inni ddweud bod, beth tasen ni’n dweud…”

Daw criw amryfal o gymeriadau ynghyd i greu stori … i geisio gwraig ddychmygol; gwraig fydd yn eu diffinio a’u herio, eu caru a’u cythruddo. Ceir o ganlyniad chwedl fodern - comedi drasig ar gyfer ein hoes. O drachwant materol i hunanaberth diamod, o ryw anniogel i ffwndamentaliaeth grefyddol, ceir yma ddarlun gogleisiol o fyd yn llawn ofn, dieithrwch ac alltudiaeth a phortread ingol o obsesiynau cyfoes.

Ers ei chyflwyno gyntaf yn 1997, mae’r ddrama ysgytwol hon wedi’i chyfieithu i ragor nag ugain o ieithoedd. Mewn cynhyrchiad aml-gyfrwng, beiddgar, gyda cherddoriaeth fyw gan Acid Casuals, daw Owen Martell (enillydd Llyfr y Flwyddyn 2001) â’r clasur cyfoes hwn i gynulleidfa Gymraeg. O wneud hynny, mae’n ein gorfodi i ystyried cyd-destun rhyngwladol ein diwylliant ac yn ein llusgo o gynefin cyfarwydd gwleidyddiaeth iaith, y meysydd chwarae ac eisteddfod i fyd gerwin pornograffi, puro ethnig a therfysgaeth ryngwladol.

“’Sdim pwynt cuddio, Ann. Ni’n gwbod lle ti’n byw. 
Ti’n mynd i ddifaru i ti gael dy eni.”

Cast: Catherine Ayers, Claire Hingott, Aled Pedrick, Meilyr Sion
Cyfarwyddwr: Arwel Gruffydd
Cynllunydd: Gerald Tyler / Goleuo a Delweddau Fideo: John Collingswood
Sain a Cherddoriaeth: Acid Casuals